#

 

 

 

 


Briff ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-711

Teitl y ddeiseb: Sicrhau bod anghenion pobl anabl am addasiadau i dai yn cael eu diwallu’n ddigonol

Testun y ddeiseb: Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ymrwymo i sicrhau nad oes yn rhaid i bobl anabl yng Nghymru aros mwy na thair blynedd i gael yr addasiadau hanfodol i’w tai / y tai y mae arnynt eu hangen, ac i weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod staff sy’n ymdrin ag achosion tai ag addasiadau wedi cael hyfforddiant digonol a’u bod yn atebol am sicrhau bod anghenion unigol yn cael eu diwallu.

Cefndir

Mae materion addasiadau yn y cartref, megis cyllid, ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael ac oedi o ran cyflawni'r gwaith, wedi bod yn uchel ar yr agenda wleidyddol ers peth amser yng Nghymru.  

Y ffrwd ariannu fwyaf adnabyddus ar gyfer addasiadau yw'r Grant Cyfleusterau i'r Anabl (DFG).  Mae'r grant yn cael ei ariannu gan awdurdodau lleol a gellir ei ddarparu ar gyfer gwahanol ddaliadaethau - fodd bynnag, yn ymarferol mae'n cael ei ddefnyddio yn gyffredinol i gynorthwyo perchen-feddiannwyr a thenantiaid preifat.  Grant statudol yw'r DFG, yn amodol ar brawf modd (ac eithrio lle mae'r addasiad ar gyfer plentyn).  Mae'r system DFG wedi cael ei beirniadu am fod yn rhy fiwrocrataidd, yn benodol y prawf modd ac oedi yn y system – e.e. oedi o ran yr asesiad cychwynnol.  Er bod rhaid i awdurdod lleol ddweud wrth yr ymgeisydd a yw'n gymwys am DFG neu beidio o fewn 6 mis o wneud y cais, gall y broses gyfan fod llawer yn hwy na hynny mewn rhai achosion.

Dengys yr ystadegau diweddaraf i'r amser a gymerwyd ar gyfartaledd i ddarparu Grant Cyfleusterau i'r Anabl ostwng o 349 diwrnod calendr yn 2009-10 i 241 diwrnod calendr yn 2015-16.  Mae llai o ddata ar gael ar gyfer rhaglenni addasiadau eraill.

Yn aml mae'n gyflymach i addasiadau gael eu cyflawni y tu allan i'r fframwaith DFG ar sail anstatudol.  Ers peth amser, mae awdurdodau lleol wedi cael eu hannog i ddarparu addasiadau ar raddfa fach yn y modd hwn ac mae Llywodraeth Cymru wedi darparu arian penodol ar gyfer hyn mewn rhai achosion.  Fel arfer, bydd yr addasiadau a ddarperir ar gyfer tenantiaid cymdeithasau tai yn cael eu hariannu naill ai o adnoddau'r landlord ei hun, neu gyda chymorth Llywodraeth Cymru.  Bydd hyn, hefyd, y tu allan i'r system DFG.  Mae darparu grantiau y tu allan i'r system DFG yn golygu nad oes gofyniad i gynnal prawf modd.

Ym mis Mawrth 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fframwaith newydd ar gyfer cyflawni addasiadau cartref - Hwyluso: Cymorth i Fyw'n Annibynnol, yn cynnwys rhywfaint o arian ychwanegol. Dylai'r system newydd hon fod yn symlach i ymgeiswyr ei deall gan y bydd y modd y mae'r addasiad yn cael ei ariannu yn llai perthnasol. Yn ei lythyr at y Pwyllgor, mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn nodi ei fod yn disgwyl i bob awdurdod lleol a phob cymdeithas tai gyflwyno addasiadau o dan y trefniadau diwygiedig o fis Ebrill 2017.

Bellach, mae gan rai ardaloedd yng Nghymru gofrestrau tai a addaswyd, sy’n golygu bod modd paru’r llety presennol yn well ag anghenion darpar denantiaid a thenantiaid presennol.  Mae hefyd yn ei gwneud yn llai tebygol y bydd rhaid tynnu addasiadau o'r eiddo presennol.

Camau gan Lywodraeth Cymru

Yn 2014, comisiynodd Llywodraeth Cymru adolygiad o addasiadau cartrefi; fe'i cyhoeddwyd ym mis Ionawr 2015.  Mae'r adroddiad yn gwneud 18 argymhelliad ar gyfer awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru.  Dyma rai o'r argymhellion: dylai Llywodraeth Cymru wneud ymrwymiad hirdymor i waredu profion modd o'r broses addasiadau; dylid datblygu cofrestrau tai hygyrch ym mhob ardal; dylai staff gael hyfforddiant addas; a dylid aildrefnu'r ddarpariaeth o addasiadau yn system haenog sy'n gyson ledled Cymru - sef rhywbeth sydd bellach yn cael ei ddatblygu, ac mae llythyr yr Ysgrifennydd Cabinet yn nodi hynny.

Camau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae sawl un o Bwyllgorau'r Cynulliad wedi ystyried addasiadau yn y cartref yn y blynyddoedd diwethaf.  Yn fwyaf diweddar, cyhoeddodd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ganfyddiadau ei Ymchwiliad i Addasiadau yn y Cartref ym mis Gorffennaf 2013.  Roedd yr argymhellion yn cynnwys: pennu targedau amser ar gyfer darparu addasiadau yn y cartref; darparu mwy o addasiadau y tu allan i'r system DFG lle bo modd; a gwell system o fonitro perfformiad yr holl wasanaethau addasu.  Yn dilyn yr ymchwiliad hwnnw, comisiynodd Llywodraeth Cymru ei hadolygiad ei hun a daeth hwnnw i gasgliadau tebyg.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.  Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.